Awen
Lawrlwytho Ffurflen Aelodaeth Awen Membership Form Download
Ebostiwch Yma / Click (or Ctrl+Click) here to email
arts whitchurch eglwysnewydd
"home of the arts in whitchurch" "cartref y celfyddydau yn yr eglwysnewydd" |
‘Arts for All’
AWEN stands for Arts Whitchurch Eglwys Newydd. AWEN is a charity in North Cardiff, set up to support our local library.
The era of austerity has generated a fear that the Library may be threatened with closure and the subsequent loss of this wonderful resource would have a damaging effect on the life of our community. AWEN was formed in response to that threat and is a group of local people determined not to let this happen.
Not only do we stand for a publicly funded library and information service, we also want to transform the present facility into a cultural hub, making better community use of the space.
Since AWEN’s formation as a Charity, our volunteers have worked tirelessly on a wide range of activities including artist and author talks, family events focusing on the environment, musical evenings, quizzes, history groups, intergenerational education, social events, arts and crafts, which have taken place inside and outside the library, always working alongside Library staff and encouraging participation by people of all ages within our local community.
In autumn 2020 an extensive refurbishment programme was completed bringing exciting new community facilities to the Hub and we are delighted to once again bring the visual arts, music, literature and the performing arts to all who live, work, study or volunteer in or around Whitchurch in this new space. In short, we want to share the inspirational energy and joy of ‘making’ and ensure that it is available to one and all while supporting the publicly funded library.
We want you to get involved too! If you would like to get involved then join AWEN and play your part in this new and exciting venture.
‘Y Celfyddydau i Bawb’
Elusen yw AWEN a sefydlwyd yng Ngogledd Caerdydd i gefnogi ein llyfrgell leol ac mae’r acronym yn sefyll am Arts Whitchurch Eglwys Newydd.
Yn ystod y cyfnod cyni diweddar, roedd llawer yn gweld diwedd y Llyfrgell ar y gorwel ac yn ofni colli’r adnodd gwych a pheri niwed pellach i fywyd ein cymuned. Felly, aethom ati i sefydlu AWEN er mwyn ymateb i'r bygythiad hwnnw, ac rydyn ni'n griw o bobl leol sy'n benderfynol o beidio â gadael i hyn ddigwydd.
Ein blaenoriaeth yw bod gennym wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, ond hoffem hefyd weld y cyfleuster presennol yn ganolfan ddiwylliannol, sy’n gwneud gwell defnydd cymunedol o'r gofod.
Ers ffurfio AWEN fel Elusen, mae ein gwirfoddolwyr wedi gweithio'n ddiflino ar amrywiaeth eang o weithgareddau, megis sgyrsiau gan artistiaid ac awduron, digwyddiadau teuluol sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd, nosweithiau cerddorol, cwisiau, grwpiau hanes, addysg sy'n pontio'r cenedlaethau, digwyddiadau cymdeithasol a chelf a chrefft. Fe’u cynhaliwyd y tu mewn a'r tu allan i furiau'r llyfrgell, gan gydweithio bob tro â staff y Llyfrgell ac anogwyd pobl o bob oed yn ein cymuned leol i gymryd rhan.
Yn ystod hydref 2020, daeth y rhaglen ailwampio i ben a bellach mae gennym gyfleusterau cymunedol newydd cyffrous yn yr Hyb. Rydym ni'n defnyddio’r lleoliad newydd i ddod â'r celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, llenyddiaeth a'r celfyddydau perfformio i bawb sy'n byw, gweithio, astudio neu wirfoddoli yn yr Eglwys Newydd a’r gymdogaeth. Mewn gair, ein nod yw rhannu'r llawenydd a’r egni cyffrous sy’n deillio o 'wneud' gan rannu hyn â phawb yn ddiwahân a chefnogi’n llyfrgell gyhoeddus yr un pryd.
Rydym ni am i chi gymryd rhan hefyd! Os hoffech chi gymryd rhan, ymunwch ag AWEN a dewch i gymryd rhan yn y fenter newydd a chyffrous hon.
Ebostiwch Yma / Click (or Ctrl+Click) here to email